Chwiliwch
​drwy’r bwydlenni

O nos Mercher tan nos Sadwrn: o 6 o’r gloch ymlaen  |  Cinio Dydd Sul: o 12.00 hanner dydd

Pwy ydy Harry?

HARRY’S BISTRO, BIWMARES - LLE MAE BWYD DA AR GAEL

Pwy oedd yr Harry lledrithiol y cafodd y bwyty ei enw ganddo?  Mae enwi Harry wedi dod yn dipyn o draddodiad, ac os medrwch chi gynnig rhywun sydd heb ei ystyried cyn hyn, byddem wrth ein bodd!

AR AGOR :

“EDRYCHWN YMLAEN AT EICH CROESAWU YMA!”

Croeso i Harry’s Bistro. Mae bwyd yn bwysig iawn inni, ac fe gewch brofiad i’w gofio wrth fwyta yma. 
Dewch o hyd inni ar gyrion tref hyfryd Biwmares ar Ynys Môn.  Mae’r Bistro yn rhan o Blas Henllys,
​plasty hynafol ac adnabyddus mewn llecyn hardd, gyda golygfeydd godidog tua’r Fenai a mynyddoedd Eryri.


Dewch draw i ymlacio - mae’r bwyty’n lle unigryw lle medrwch chi gymryd eich amser i fwynhau bwyd bistro, pwdinau diguro, a gwinoedd wedi’u dewis yn ofalus i gyd-fynd.

Ydych chi’n chwilio am ddewis o fwyd traddodiadol neu gyfoes?