Grwpiau neu Achlysuron

Awgrymwn eich bod yn neilltuo bwrdd ymlaen llaw cyn dod draw i fwyta, yn arbennig pan fydd hi’n gyfnod prysur neu yn ystod gwyliau.


Ffôn:

01248 812 976
E-bost:

enquiries@harrysbistro.com 

Neilltuo bwrdd

HARRY’S BISTRO, BIWMARES - LLE MAE BWYD DA AR GAEL

AR AGOR :

Pwy oedd yr Harry lledrithiol y cafodd y bwyty ei enw ganddo?  Mae enwi Harry wedi dod yn dipyn o draddodiad, ac os medrwch chi gynnig rhywun sydd heb ei ystyried cyn hyn, byddem wrth ein bodd!

“EDRYCHWN YMLAEN AT EICH CROESAWU YMA!”

Pwy ydy Harry?

O nos Mercher tan nos Sadwrn: o 6 o’r gloch ymlaen  |  Cinio Dydd Sul: o 12.00 hanner dydd

Gallwn ddarparu ar gyfer unrhyw anghenion dietegol.  Rhowch wybod inni beth sydd ei angen wrth neilltuo lle, a byddwn yn barod iawn i’ch bodloni trwy fod yn hyblyg gyda’n bwydlenni.

Anghenion dietegol

Chwiliwch
​drwy’r bwydlenni

Mae’r bwyty’n lle gwych ar gyfer achlysuron preifat neu giniawau clybiau, cymdeithasau neu grwpiau.  Ein bwriad ydy gwneud digwyddiadau o’r fath yn arbennig, ond nid yn orffurfiol.


Mae’r ystafelloedd o faintioli sy’n caniatáu hyblygrwydd - boed hynny ar gyfer ciniawau busnes neu achlysuron ar gyfer teulu neu ffrindiau.  Gallwn osod y byrddau’n unigol neu eu rhoi at ei gilydd yn ôl y galw.


Gall Simon baratoi bwydlen arbennig, cinio penodol, neu ginio bwffe, a gallwn drefnu i gyfarfod anghenion neilltuol fel cacennau dathlu neu bwdinau moethus.