Mae Biwmares yn dref glan-y-môr hynod ddeniadol, gydag amrywiaeth o bensaernïaeth o wahanol gyfnodau - canoloesol, Sioraidd, Fictoraidd ac Edwardaidd.  Daw’r enw o’r term Normanaidd ‘beau marais’, sef ‘morfa deg’.


Mae’n rhaid ichi fynd am dro drwy’r dref, gan gychwyn ar lan y môr a cherdded y lanfa er mwyn gweld y golygfeydd gwych dros y Fenai a thuag at Eryri.  Yna ymlaen drwy’r strydoedd del gyda’u bythynnod tlws, llawer ohonynt mewn lliwiau golau deniadol.


Mae Castell Biwmares yn un o Safleoedd Treftadaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig; fe’i codwyd rhwng 1295 ac 1330.  Mae ffos o’i gwmpas a doc a ddefnyddiwyd gan longau cyflenwi yn y gorffennol, ac mae’n werth ei weld.

HARRY’S BISTRO, BIWMARES - LLE MAE BWYD DA AR GAEL

Saif Plas Henllys yn urddasol ar y bryniau uwchlaw Biwmares.  Mae’n adeilad hanesyddol a godwyd yn yr 1880au, ac mae’n sefyll ar safle hen fynachlog o’r drydedd ganrif ar ddeg.


Agorwyd y bwyty ym Mhlas Henllys yn 2004, gan gael ei enwi ar ôl yr Harry enwog ond dirgel ychydig yn ddiweddarach.

Pwy oedd yr Harry lledrithiol y cafodd y bwyty ei enw ganddo?  Mae enwi Harry wedi dod yn dipyn o draddodiad, ac os medrwch chi gynnig rhywun sydd heb ei ystyried cyn hyn, byddem wrth ein bodd!

AR AGOR :

O nos Mercher tan nos Sadwrn: o 6 o’r gloch ymlaen  |  Cinio Dydd Sul: o 12.00 hanner dydd

Pwy ydy Harry?

“EDRYCHWN YMLAEN AT EICH CROESAWU YMA!”

Plas Henllys

Simon a Nia

Harddwch Biwmares

Chwiliwch
​drwy’r bwydlenni

Mae’r perchnogion - Simon a Nia Doyle - yn gyfuniad adnabyddus ar Ynys Môn.  Cafodd eu dull arbennig o baratoi a chyflwyno bwyd bistro ei berffeithio dramor, ac yna yn rhai o fwytai gorau’r Ynys.


Cafodd y bistro ei ailwampio’n ddiweddar mewn dull Art Deco, ac mae Simon a Nia hwythau wedi ehangu ar eu bwydlenni drwy gynnig prydau tymhorol a Chymreig, yn ogystal â’u prydau cyfoes arferol.  Daw’r cynnyrch o ffynonellau lleol iawn ar Ynys Môn.